MANION BETHAU
Tydi diwrnodau newyddion byth yr un fath, fethu hefyd ein cyrsiau. Mae na flaenoriaeth i geisio bod yn amserol ac yn berthnasol i anghenion y plant.
Mae y cyrsiau canlynol ar gael;
- Gweithdai mewn ysgolion
- 1 diwrnod o weithdy yn y gwyliau neu dros benwythnos
- 1-5 diwrnod o gwrs yn ystod gwyliau ysgol
- Clwb Stafell Newyddion, cyrsiau wythnos o hyd yn ystod gwyliau ysgol gyda cyfle i adael y plant yn gynnar neu eu casglu yn hwyr ar ddiwedd dydd.
- Clybiau gydar hwyr wedi i ysgolion gau am y diwrnod.
- Papur wythnosol neu adroddiad digidol ar lein i ysgolion unigol
Am wybodaeth ychwanegol am gyrsiau,lleoliadau,argaeledd,prisiau cysylltwch drwy e bost info@newsroomclub.co.uk neu ffoniwch Rebecca 07899668853.
LE MAE Y CYRSIAU?
Mae ein cyrsiau iw cael mewn ysgolion yn y brifddinas.
BETH SYDD ANGEN I MI DDOD GYDA FI?
Pecyn bwyd a diod yn unig. Bydd llyfrau, sgwennu, biros a props ar gael yn y Ganolfan.
OES POSIB BOD YN HYBLYG AM DYDDIADAU Y CYRSIAU?
Oes. Gellir addasu dyddiadau o gynnig rhybudd o 24 awr.
YDI Y HYFFORWYR WEDI EU TRWYDDEDU I WEITHIO GYDA PLANT?
Mae gan pob hyfforwr dystysgrif DSB.
YDIO YN BOSIB BWCIO DIWRNODAU UNIGOL?
Ydi. Byddwn yn cynnig themau penodol yn ystod rhai wythnosau. Ewch i lwyfan trydar neu Facebook y Stafell Newyddion.
BETH YW AMSERAU Y CYRSIAU?
Bydd y cyrsiau yn cychwyn am 09.30 ac yn gorffen am 15.30. Mae cyfle i adael y plant yn gynnar am 08.30 ai casglu am 17.00 am bris ychwanegol.
OEDRAN YMAELODI?
Mae y cyrsiau wedi eu cynllunio i blant Blwyddyn 6 sef 10 mlwydd oed a mwy.
Os oes galw am gyrsiau i blant iau hwyrach y bydd posib trefnu yn nol y galw
OES POSIB CYSYLLTU GYDA Y PLANT YN YSTOD Y CWRS?
Mae y Ganolfan yn rhydd o unrhyw declyn electronic.Bydd rhif arbennig i gysylltu gyda gweinyddwyr y cyrsiau.

AM PRYSIAU A GWYBODAETH YCHWANEGOL
Ebost info@thenewsroomclub neu galw 07899668853
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol